Mae Bae Caerdydd yn edrych yn debyg iawn i faes prifwyl erbyn heddiw, dridiau cyn bod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn agor ei drysau i ymwelwyr.

Mae ardal ddeheuol y bae wedi’i drawsnewid yn llwyr, gyda dwsinau o stondinau i’w gweld yn ardal yr Eglwys Norwyaidd.

Mae gweithwyr wrthi’n codi Bar Syched ger Caffi’r Lock Keeper, a bellach mae ffrâm noeth Tŷ Gwerin wedi’i orchuddio â chynfas.

Yn Plass Roald Dahl mae’r gweithwyr ar eu prysuraf heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 31), a’r prif orchwyl ddechrau’r pnawn yw codi Llwyfan y Maes.

I gyfeiriad y gogledd, mae’r brifwyl wedi meddiannu Rhodfa Lloyd George, ac mae rhesi o stondinau wedi’u gosod ar y ffordd.

Hefyd, mae’r Senedd gam yn agosach at droi’n Lle Celf, ac mae arddangosfeydd a phaentiadau wedi dechrau cael eu gosod yno.

Bydd y brifwyl yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd rhwng Awst 3 a 11.

Bar Syched yn cael ei godi
Stondinau ger yr Eglwys Norwyaidd
Stondinau yn ardal ddeheuol Bae Caerdydd
Stondinau pren yn y Bae, ac adeilad Pierhead yn y cefndir
Y Lle Celf (Y Senedd gynt)
Y Maes yn ehangu i Rodfa Lloyd George