Mae’r Urdd wedi enwi’r chwech o bobol ifanc a fydd yn cystadlu am ysgoloriaeth gwerth £4,000 Bryn Terfel.

Mae pob un wedi gwneud argraff ar banel a fu’n gwylio cystadlaethau dydd Gwener a dydd Sadwrn yr eisteddfod ar faes Sioe Fawr Llanelwedd.

Fe fydd y gystadleuaeth am yr Ysgoloriaeth yn digwydd yn Llandrindod ar Hydref 12, pryd y bydd disgwyl i’r chwe chystadleuydd gyflwyno rhaglen o adloniant yn eu meysydd eu hunain.

Y chwech enw ydi:

Glain Rhys – Aelwyd Penllyn, Rhanbarth Meirionnydd

Celyn Cartwright – Canolfan Berfformio Cymru, Rhanbarth Caerdydd a’r Fro)

Epsie Thompson – aelod o du allan i Gymru

Emyr Lloyd Jones – aelod unigol Cylch Arfon, Rhanbarth Eryri

Elwyn Siôn Williams – Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Rhanbarth Caerdydd a’r Fro

Jodi Bird – aelod o du allan i Gymru

Aelodau’r panel dewis oedd Owain Sion, Iwan Llywelyn, Lowri Walton, Rhian Roberts a Sioned Gwen.