Mae heddlu arfog yn crwydro o gwmpas maes Eisteddfod yr Urdd eleni eto.

Golygfa gyffredin i nifer o ymwelwyr Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái y llynedd oedd heddweision â gynnau yn crwydro o gwmpas y maes.

Ar y pryd, fe ddywedodd trefnwyr yr Eisteddfod fod yr heddlu wedi’u cynghori i gael plismyn yn cario gynnau, a hynny yn sgil yr ymosodiad ym Manceinion wythnos ynghynt.

Ac mae’n edrych yn debyg bod yr un drefn wedi parhau eleni eto wrth i’r ŵyl gael ei chynnal ar Faes y Sioe yn Llanelwedd.

Mae swyddogion diogelwch yr Eisteddfod hefyd yn archwilio bagiau wrth fynedfa’r maes.