Never say never” – syna ymateb Prif Weithredwr yr Urdd i’w ddweud am y posibilrwydd o agor rhagor o wersylloedd yn y dyfodol.

Mae Sian Lewis wedi bod wrth y llyw ers chwe mis, ac yn sgil agoriad gwersyll ym Mae Caerdydd rai blynyddoedd yn ôl, mae hi wedi awgrymu heddiw fod gobaith ehangu eto.

“Rydym ni’n agor y drafodaeth,” meddai wrth golwg360. “Yn sicr, mae pob cyfle yn bosib, ac mae’n bwysig cadw meddwl agored  am y cyfleoedd sy’n dod.

“A dyna fydda i’n gwneud fel Prif Weithredwr dros y blynyddoedd i ddod.”

Adnewyddu

Daw ei sylwadau wrth i Urdd Gobaith Cymru gyhoeddi cynlluniau £5.5m i adnewyddu eu gwersylloedd yng Nglan-llyn a Llangrannog.

Mae’r Urdd, meddai Sian Lewis, yn barod i ysgwyddo hanner y gost – £2.75m – a’n nodi ei bod yn “ffyddiog a hyderus” y gallan nhw ennill grantiau i dalu’r gweddill.

Mae trafodaethau ar droed gydag “amryw o bartneriaid”, meddai.

Pentre Ifan

Yn ogystal â chyhoeddi cynlluniau adnewyddu, mae’r Urdd wedi lansio apêl am denant i’w pedwerydd gwersyll, sef Pentre Ifan.

Mae’r safle wedi’i leoli rhyw ddwy filltir o bentref Trefdraeth,  ac yn ôl Lowri Jones – Cyfarwyddwr Gwersyll Llangrannog – mae’n “llecyn hyfryd”.

“Ti’n mynd mewn i fyd arall, pan ti’n mynd lawr ‘na,” meddai wrth golwg360. “Mae’n cael defnydd weddol gyson, a’n bwriad ni yw cynyddu’r defnydd yna dros y blynyddoedd nesa’.”