Daeth cadarnhad ddiwedd yr wythnos mai Trystan Ellis-Morris fydd yn cyflwyno cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd yn absenoldeb Ifan Jones Evans.

Yn ogystal â chyflwyno’r gyngerdd, fe fydd Trystan hefyd yn cyflwyno yn ystod yr wythnos – o’r stiwdio ac o amgylch Maes y Sioe yn Llanelwedd. Ar ddiwedd yr wythnos, fe fydd e’n arwain rhai o’r prif gystadlaethau o’r llwyfan.

Ar drothwy’r Eisteddfod, fe fu Trystan yn rhannu rhai o’i atgofion o Eisteddfod yr Urdd – y da, y drwg ac ambell atgof sy’n peri embaras.

Beth yw dy atgof(ion) cynharaf o Eisteddfod yr Urdd?

Baswn i’n tybio mai gweld cymeriadau fel Syr Wymff a Plwmsan, Tomos y Tanc ac ati. Mae’r rheiny’n aros yn y co’ yn fwy na chystadlu yn ’Steddfod yr Urdd. Do’n i ddim yn un oedd yn cystadlu gymaint achos o’n i’n mynd mor nerfus achos o’n i’n eitha’ swil, coeliwch neu beidio! Pan oedd fy nhro i’n dwad i gystadlu, o’n i wastad yn deud, “Dwi ddim isio gwneud o!” Ond mae cymaint o atgofion o gymryd rhan, ddim cymaint yn yr ysgol gynradd ond yn yr ysgol uwchradd. Wnaethon ni wneud côr ambell flwyddyn. Oeddan ni’n gwneud y bandiau a’r cerddorfeydd ac ennill honno, dwi’n meddwl, yn 1998 – ugain mlynedd yn ôl – Band Jazz Brynrefail pan oedd yr Eisteddfod yn Llyn ac Eifionnydd ym Mhenyberth. Oeddan ni’n teimlo bo ni’n amazing ac yn cael cam bob blwyddyn!

Beth sy’n apelio atat ti am weithio yn Eisteddfod yr Urdd neu gyda phlant?

O ran y ffordd roedd fy ngyrfa gyflwyno i wedi cychwyn, yn cyflwyno rhaglenni plant, dydi hynny byth yn dy adael di. Wnes i gychwyn cyflwyno Mosgito a mynd ymlaen i wneud Cyw. Yn sicr, mae’r profiadau ges i yn mynd law yn llaw efo cyflwyno’r Urdd. Mae’n dy baratoi di oherwydd alli di ddim dibynnu ar be’ sy’n dod allan o gegau plant! Weithiau dwi’n ei chael hi’n haws cyfweld â phlant nag oedolion achos maen nhw jyst yn dweud beth sydd ar eu meddwl nhw!

Beth yw dy hoff beth di am y Maes?

Bob blwyddyn, dw i a Heledd Cynwal wastad, erbyn diwedd yr wythnos, wedi gweithio allan y ffair. Mae bwlch yn y prynhawn. Dwi’n cyflwyno’r boreau ac yn gorffen tua 2 o’r gloch, a Heledd yn gwneud lincs yn y bore a bwlch yn y prynhawn. Yn y bwlch yna, dan ni fel arfer fel plant drwg, un yn chwilio am swîts, a threulio oriau yn y ffair yn bod yn hollol wirion! Mae’n glyfar hefyd beth mae’r Urdd yn gwneud efo’r Pentref Chwaraeon. Gallet ti dreulio diwrnod cyfan ym Mhentref Mr Urdd.

Beth yw’r digwyddiad achosodd embaras i ti yn yr Eisteddfod?

Dwi’n cofio cyfweld â rhywun ar stondin. Oedd hi’n tynnu at ddiwedd yr wsnos ac mae’n gallu bod yn waith blinedig efo’r holl gerdded ti’n gwneud. Oeddwn i’n eistedd lawr ac yn cyfweld â’r ddynes yma a rywsut o’n i wedi ymlacio gymaint, wnes i weld rhywun yn cerdded heibio’r babell ac oeddan nhw’n dylyfu gên. Pan ti’n gweld rhywun ti’n dylyfu gên, mae’n mynd yn catchy  ac yn ddiarwybod i mi, o’n i’n gwneud o. Wnes i ddylyfu gên yng nghanol y cyfweliad! O’n i’n nabod y ddynes a gawson ni bach o banter! “Ydw i’n ddiflas?”, medda hi. Fel oedd hi’n deud hynna, o’n i’n sylweddoli be’ oeddwn i wedi gneud, a gorfod trio bac-tracio! Mae’n syndod bo fi’n cael fy ngofyn i ddod nôl bob blwyddyn! Gollais i sawl noson o gwsg ar ôl hynna!

P’un oedd y Steddfod yr Urdd orau i ti hyd yn hyn?

Llanerchaeron. Oedd hi’n wsnos rili braf. Oedd y lleoliad yn fendigedig. Wnes i rili fwynhau flwyddyn dwytha’ ym Mhen-y-bont hefyd.

Beth yw dy lwyddiant mwya’ yn y Steddfod hyd yn hyn?

Ennill y gystadleuaeth band jazz yn Ysgol Brynrefail.

Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwya’ am y Steddfod eleni?

Achos bo ti’n cyflwyno, ti’n gneud cymaint o ffrindia’ dros y blynyddoedd, ti’n dod i nabod y bobl ti’n eu cyfweld. Ti’n nabod y cystadleuwyr, eu rhieni nhw, y stondinwyr, staff yr Urdd, y stiwardiaid. Mae ymdeimlad hyfryd yn perthyn i Steddfod yr Urdd. Mae’n neis gweld yr un wynebau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’n gyfle i ni ymfalchïo fel Cymry fod gyda ni’r fath ddigwyddiad!

A beth wyt ti’n edrych ymlaen ato leia’?

Codi’n fuan! Dwi’n gwneud y shifftiau cynnar ac achos bo fi’n cyflwyno yn y nos, dw i’n un o’r rhai olaf i adael. Er bo fi’n cyflwyno rhaglen radio am 7 o’r gloch bob bore dydd Sadwrn, dydw i ddim yn berson buan!

Pa ddarn o gyngor fyddet ti’n ei roi i ymwelwyr â’r Steddfod?

Bob bore yn y Steddfod, dw i’n cyfweld un ai â phlismon neu swyddog traffig. Y tip maen nhw’n ei roi i fi ydi, yn hytrach na dilyn y Tom-Tom, dilynwch arwyddion yr Eisteddfod! Be’ mae pobl yn gneud ydi rhoi o yn y Tom-Tom a disgwyl iddo fe wybod, a gobeithio am y gorau! Mae rhai pobl yn gwybod yn well na’r Tom-Tom. A gwisgwch trainers cyfforddus!

Oes gen ti gyfrinach – Eisteddfodol neu gyffredinol – i’w rhannu â’r genedl?

Dwi’n cael ffrae hefo’r tîm cynhyrchu yn y Steddfod bob blwyddyn am bo fi’n cymryd oriau i fynd o amgylch y Maes gan bo fi’n stopio i siarad efo pawb!

Bydd cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd yn fyw ar S4C am 8.30 nos Sul.