Daeth cadarnhad bellach na fydd Ifan Jones Evans yn cyflwyno cyngerdd agoriadol Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed nos Sul.

Cafodd ei ruthro i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth fore Mercher i gael tynnu pendics, a wnaeth e ddim cyflwyno’i raglen ar Radio Cymru weddill yr wythnos.

Marc Griffiths gyflwynodd ei raglen yn ei le ddydd Mercher a dydd Iau, a Tudur Owen wedi cadw ei sedd yn gynnes ddydd Gwener.

Trystan Ellis-Morris, un o gyflwynwyr rhaglenni Eisteddfod yr Urdd S4C, fydd yn cyflwyno’r gyngerdd agoriadol yn ei le.

Y gyngerdd

Yn y gyngerdd agoriadol ar Faes y Sioe yn Llanelwedd nos Sul, cawn berfformiadau gan rai o gantorion a bandiau cyfoes Cymru.

Bydd cyn-gystadleuydd The X Factor, Lloyd Macey yn perfformio detholiad o’i ganeuon ei hun ar drothwy sengl ac albwm newydd.

Bydd cyfle i glywed un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, Sŵnami, a’r gantores bop Greta Isaac sydd wedi cael sylw ar BBC 6 Music, yn perfformio gyda’i  gilydd.

Bydd yr actores Nia Roberts, o Aberhonddu, hefyd yn rhan o’r dathliadau.

Ac yntau wedi cael llwyddiant yn yr Eisteddfod drwy ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel, bydd yr actor ifanc Cedron Siôn yn perfformio, yn ogystal â’r gantores leol a chadeirydd Pwyllgor Ieuenctid yr Eisteddfod, Sophie Jones, a hithau hefyd wedi cael cryn lwyddiant yn yr Eisteddfod yn y gorffennol.

Fe fydd perfformiad hefyd gan y canwr a diddanwr, Welsh Whisperer, sydd wedi ysgrifennu cân newydd sbon ar gyfer yr achlysur. A bydd ambell glasur i’w chlywed hefyd, sy’n sicr o roi gwên ar wynebau pawb.

Yn goron ar y cyfan bydd perfformiad o fersiwn newydd sbon o’r gân ‘Calon’ gan Caryl Parry-Jones i adlewyrchu lleoliad yr Eisteddfod yng nghanolbarth Cymru. Mae’r trefniant newydd  gan Steffan Rhys Williams.