Mae Golwg360 wedi cywiro camgymeriad wrth gyhoeddi llun i fynd gyda stori am y brifwyl yng Nghaerdydd.

Roedd y llun gwreiddiol gyda stori am bryderon am effaith carafanau ar Gaeau Pontcanna yn un cyffredinol o gae lleidiog, ond heb fod â dim i’w wneud â’r Eisteddfod yn 2008 a doedd Golwg360 ddim wedi gwneud hynny’n glir.

Mewn nodyn ar y stori wreiddiol, mae’r wefan yn cydnabod bod hynny’n gamarweiniol ac wedi ymddiheuro.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd yn pwysleisio nad oedd unrhyw gwynion am ddifrod oherwydd y maes carafanau yng Nghaerdydd yn 2008.