Pump o ddynion sydd yn y ras ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Cafodd y rownd gyn-derfynol ei chynnal yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd ddoe.

Y pump a ddaeth i’r brig oedd Steve Dimmick o Gaerdydd, Mihil Patel o Gaerdydd, Yankier Pijeira Perez o Lanrug, Nicky Roberts o Aberystwyth a Matt Spry o Gaerdydd.

Cawson nhw eu dewis o blith 23 o ymgeiswyr, un o’r niferoedd uchaf i gystadlu dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd yr enillydd yn derbyn tlws sydd wedi’i roi gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, a £300 sydd wedi’i roi gan Peter a Gill Griffiths o Bentyrch yng Nghaerdydd. Bydd y pump hefyd yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn Golwg a rhoddion eraill gan Ferched y Wawr, yn ogystal â gwahoddiad i fod yn aelod o’r Orsedd.

Y beirniaid eleni yw Lowri Bunford Jones, Carole Bradley a Lowri Haf Cooke.

Y pump yn y ras

Steve Dimmick

Yn wreiddiol o Blaina, Blaenau Gwent, mae Steve Dimmick yn byw yng Nghaerdydd, yn dad i dri o blant ac yn gyfarwyddwr cwmni technolegol.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yn Llundain ac yna yng Nghaerdydd, dywed Steve i wythnos yn Nant Gwrtheyrn, ac mae’n grediniol i’r wythnos honno newid ei fywyd.

Dywed hefyd fod gwefan Say Something in Welsh hefyd wedi bod o gymorth amhrisiadwy iddo wrth iddo ddysgu’r Gymraeg.

Erbyn heddiw, mae’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol, ac mae’i angerdd dros yr iaith a Chymru yn llywio’i fywyd bob dydd.

Dywedodd Steve, “Dyw siarad dwy iaith ddim yn jyst dyblu dy sgiliau, mae fwy fel sgwario!  Ond mae degau o gylchoedd o ffrindiau newydd wedi cyrraedd fy mywyd am fy mod i’n siarad Cymraeg.  Ac mae fy musnes yn dibynnu ar y peth.”

Mihil Patel

Daw Mihil Patel o Fryste’n wreiddiol, ond erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym maes Imiwnoleg a Firoleg.

Ar ôl treulio prynhawn yng ngŵyl Tafwyl un flwyddyn, penderfynodd Mihil fynd ati i ddysgu Cymraeg, ar ôl iddo weld fod yr iaith yn rhywbeth byw, cyffrous a pherthnasol iddo fo.

Dilynodd gwrs Say Something in Welsh ac mae hefyd yn mynychu dosbarth Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae dysgu Cymraeg wedi galluogi iddo ennyn diddordeb plant a phobl ifanc mewn gwyddoniaeth drwy rannu’i frwdfrydedd yn ei bwnc, yn arbennig felly ei waith yn gwirfoddoli gyda chwis Her Gwyddoniaeth Bywyd, cwis gwyddoniaeth i ddisgyblion blwyddyn 10.

Yankier Pijeira Perez

Daeth Yankier Pijeira Perez i Gymru o Giwba yn 2011, i ymuno gyda’i wraig, Lowri, ac mae’r teulu’n byw yn Llanrug, Gwynedd ar hyn o bryd.

Pan symudodd i Gymru, aeth ati i ddysgu’r iaith gan fod y Gymraeg yn rhan bwysig iawn o’i gymuned leol.

Pan ddechreuodd weithio fel Technegydd Fferyllfa yn Ysbyty Gwynedd, roedd yn amlwg fod llawer o gleifion yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad Cymraeg, ac roedd hyn yn anogaeth bellach iddo gyda’r iaith.

Dywed ei fod yn ffodus i gael cymaint o gyfleoedd i siarad Cymraeg gyda’i deulu, yn y gymuned ac yn y gwaith, ac mae’n ddiolchgar i’w gydweithwyr am eu cefnogaeth ac am fod yn barod i wrando a helpu pan oedd yn dechrau dysgu’r iaith.

Mae Yankier yn gobeithio dilyn cwrs Cymraeg academaidd yn y dyfodol.

Nicky Roberts

Symudodd Nicky Roberts a’i wraig, Lara, i Aberystwyth y llynedd er mwyn gallu byw eu bywydau yn y Gymraeg.

Yn wreiddiol o Gwm Rhondda, dewisodd Nicky astudio Technoleg Gwybodaeth yn hytrach na Chymraeg yn yr ysgol, gan ei fod yn awyddus i weithio ym maes TG.

Flynyddoedd yn ddiweddarach, tra roedd allan yn Ffrainc adeg gemau’r Ewros yn 2016, penderfynodd y dylai fynd ati i ddysgu’r iaith.

Erbyn hyn, mae wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn a hanner.

Dywed fod yr iaith wedi newid ei fywyd yn llwyr o’r cychwyn cyntaf, ac fe benderfynodd fynd ati i rannu’i daith drwy sefydlu sianel You Tube o’r enw Learn Welsh with Nicky, ac mae dros gant o bobl wedi cysylltu i ddweud bod ei daith wedi’u hysbrydoli nhw i ddysgu Cymraeg hefyd.

Matt Spry

Yn wreiddiol o Aberplym, mae Matt Spry yn byw yng Nghaerdydd ers pum mlynedd, ac yn dysgu Cymraeg ers 2015, ac yn bwriadu sefyll yr arholiad Uwch y flwyddyn nesaf.

Mae’n gweithio i Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd fel tiwtor-drefnydd, ac yn gyfrifol am drefnu cyrsiau a dysgu Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghaerdydd.

Dywed fod dysgu Cymraeg wedi bod o gymorth mawr iddo dros y blynyddoedd diwethaf a bod yr iaith wedi newid ei fywyd yn gyfan gwbl.

Ei uchelgais yw parhau i weithio fel tiwtor Cymraeg gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a byddai hefyd yn hoffi gweithio ar brosiectau dysgu arloesol eraill, gan gynnwys cynnig gwersi Cymraeg mewn carchardai, pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu’r rheiny â phroblemau gyda chyffuriau ac alcohol.

Llongyfarchiadau

Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, “Mae mor braf gweld cynifer o ymgeiswyr yn y gystadleuaeth eleni, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw i ddod i adnabod y pump sydd wedi dod i’r brig yn well, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y rownd derfynol yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

“Rydym yn llongyfarch pob un ymgeisydd yn wresog, ac yn diolch iddyn nhw, nid yn unig am gystadlu ond am eu hymroddiad i’r iaith a’n diwylliant.  Dymuniadau da i bob un ohonyn nhw yn y dyfodol.”