Cael eich derbyn i’r Orsedd yw’r “anrhydedd fwyaf” i Gymro Cymraeg, meddai’r newyddiadurwr gwleidyddol profiadol, Vaughan Roderick, wrth golwg360.

Mae Golygydd Materion Cymreig y BBC wedi cael y Wisg Las am ei gyfraniad ym maes newyddiaduraeth.

“Dw i wastad wedi dweud mai dyna’r unig anrhydedd bysen i’n ei dderbyn, dw i yn teimlo ei fod yn anrhydedd,” meddai.

“Mae ambell aelod o’r teulu wedi bod yn aelodau o’r blaen so mae’n cadw’r traddodiad teuluol i fynd yn yr ystyr ‘ny.

“Dyna’r anrhydedd fwyaf chi’n gallu cael fel Cymro Cymraeg so fi’n hapus iawn am y peth.”

Perthnasau eisteddfodol

Wrth sôn am aelodau eraill o’i deulu sydd wedi bod yn aelodau o’r Orsedd, dywed y darlledwr ei fod yn perthyn i’r cyn-Archdderwydd Cynan, a’r bardd Jac Glan-y-gors, oedd yn rhan o’r un gymdeithas Gymreig â Iolo Morgannwg yn Llundain.

“Fi’n perthyn i Cynan o bell, rywsut, o ochrau teulu mam, ond fi ddim cweit yn siŵr sut,” meddai. “Fi’n ddisgynnydd i Jac Glan-y-gors, roedd e’n mêts, dw i’n meddwl, gyda Iolo Morgannwg yn y Cymreigyddion yn Llundain, so falle bod e yna ar Primrose Hill…

“Fi’n amau hefyd bod fy nhad-cu, oedd yn ysgrifennydd yr Eisteddfod pan oedd e yn Rhydaman yn y 1930au, wy’n amau bod e’n aelod o’r Orsedd… ond dw i ddim yn gallu ffeindio rhestr yn unrhyw le i fod yn gyfan gwbwl sicr.”