Fe fydd wynebau cyfarwydd mewn eisteddfodau a gweithgareddau llawr gwlad yn cael eu hurddo’n aelodau o Orsedd y Beirdd yn ystod prifwyl Caerdydd eleni.

Yn eu plith y mae Dafydd Parri – cynhyrchydd teledu a gweithiwr gwirfoddol ym maes cerddoriaeth a bandiau pres – ynghyd â dyn arall byd y bandiau ac un hanner o’r grwp canu gwlad Montre, Dennis Williams o Lanfairpwllgwyngyll.

Fe fydd Gwisg Werdd hefyd i Ifan Alun Puw – hyfforddwr ac arweinydd adrannau’r Urdd yn Llanuwchllyn, ac un yn weithgar ym Mudiad y Ffermwyr Ifanc a Phabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol.

Fe fydd Jerermy Randles, un o drefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, hefyd yn cael ei urddo’n aelod o’r Orsedd, ynghyd ag un arall o weithwyr Sir Fynwy 2016, Helen Middleton.

Fe fydd gwisg hefyd i Eric Jones, stiward ac arolygydd yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.