Cafwyd cystadlu brwd o safon uchel yn Eisteddfod Gadeiriol Bacnffosfelen a gynhaliwyd ddydd Sadwrn Hydref  16eg, 2010 yn Neuadd Gyhoeddus Bancffosfelen a Chrwbin, ger Llanelli. 

Y beirniaid oedd Rhys Davies (Cerdd) ac Aneirin Karadog (llenyddiaeth a llefaru). Cyfeiliwyd yn feistrolgar gan Gareth Wyn Thomas, Capel Hendre. Y llywydd anrhydeddus oedd Iona Jones, Caerdydd.

Agorwyd yr Eisteddfod gyda phlant yr ysgolion cynradd lleol yn canu, llefaru a chwarae offerynnau, ac roedd y neuadd yn orlawn.  Wedi i’r cystadlu brwd ddod i ben, cafwyd feirniadaeth, a ddyfarnwyd gan Ioan a Joanna Evans, ar eitemau’r arlunio a llawysgrifen.

Yn hwyrach yn y prynhawn, cafwyd cystadlu agored o safon uchel iawn, gyda Joy Williams ac Alban Rees yn arwain o’r llwyfan. 

Erin Aled ar y delyn o Lanuwchlyn a ddaeth yn gyntaf ar yr unawd ar unrhyw offeryn cerdd(ac eithrio’r piano dan 14) a Mared Phillips o Lanfihangel ar Arth a ddaeth yn ail ar y gystadleuaeth.
Erin Aled ar y delyn o Lanuwchlyn a ddaeth yn gyntaf ar yr unawd ar unrhyw offeryn cerdd(ac eithrio’r piano dan 14) a Mared Phillips o Lanfihangel ar Arth a ddaeth yn ail ar y gystadleuaeth.

Cadair fechan wedi ei chreu o wydr lliw oedd gwobr y bardd buddugol eleni a darn hardd o waith celfydd Tlws Jonhston, Buckinghamshire oedd hi. Cafwyd cystadlu brwd yng nghystadleuaeth y gadair, sef cerdd rydd neu gaeth heb fod dros 30 llinell ar y testun ‘Copa’.  Dyfarnodd Aneirin Karadog, a arweiniodd y seremoni cadeirio, y gadair gyda chlod uchel i Rhys Gwynn o Ddolgellau, a oedd yn bresennol ar y noson.  Cafwyd seremoni hyfryd, a gwelir y bardd buddugol gyda’r beirniad islaw.

Rhys Gwynn, y bardd buddugol gyda’r gadair wybr a’r beirniad llen a llefaru Aneirin Karadog.
Rhys Gwynn, y bardd buddugol gyda’r gadair wybr a’r beirniad llen a llefaru Aneirin Karadog.
Y seremoni cadeirio
Y seremoni cadeirio

Nid Rhys oedd unig ymgeisydd o’r teulu Gwynn a wnaeth argraff ar y beirniad Aneirin Karadog.  Mab Rhys, Gruffydd Gwynn, 13 mlwydd oed oedd enillydd Tlws yr Ifanc dan 21.  Mi wnaeth stori fer Gruffydd ddal sylw’r beirniad wrth iddi son am Heddlu Moch Daear Sir Benfro yn creu trafferth i wleidyddion. Yn ogystal, cyflwynir Tlws Mr a Mrs John Emanuel i Gruffydd Gwynn am greu’r gwaith gorau yn yr adran lenyddiaeth. 

Hoffai Pwyllgor yr Eisteddfod ddiolch i bawb a gefnogodd a noddodd yr Eisteddfod eleni i’w gwneud yn llwyddiant.

Dyma ganlyniadau’r dydd:

Adran yr ysgolion lleol

Cystadleuaeth 1af 2ail 3ydd
Unawd Blwyddyn 2 ag iau Ela, Ysgol Pontyberem Adam, Ysgol Pontyberem Ifan, Ysgol Pontyberem
Llefaru Blwyddyn 2 ag iau Ifan, Ysgol Pontyberem Ela, Ysgol Pontyberem Lowri, Ysgol Pontyberem
Unawd Blwyddyn 3 a 4 Alaw, Ysgol Pontyberem Elis, Ysgol Pontyberem Siobhan, Ysgol Pontyberem
Llefaru Blwyddyn 3 a 4 Alaw, Ysgol Pontyberem Betsan, Ysgol Pontyberem Elis, Ysgol Pontyberem
Unawd Blwyddyn 5 a 6 Sharna, Ysgol Pontyberem Elan, Ysgol Pontyberem Eli, Ysgol Pontyberem
Llefaru Blwyddyn 5 a 6 Mared, Ysgol Pontyberem Sharna, Ysgol Pontyberem Amber, Ysgol Pontyberem
Unawd ar biano/unrhyw offeryn cerdd arall Samuel, Ysgol Pontyberem    
Ysgrifennu i blant dan 12 Daniel Hill, Ysgol Pontyberem Alaw Evans, Ysgol Pontyberem Mared Thomas, Ysgol Pontyberem
Gwobr unigol i oed meithrin – arlunio Olivia Bowen Phillips, Ysgol Feirthrin Bancffosfelen    
Arlunio dosbarth derbyn Kaina James, Ysgol Pontyberem Elan Thomas, Ysgol Pontyberem Toni Ross, Ysgol Pontyberem
Arlunio Blwyddyn 1 a 2 Angharad Evans, Ysgol Pontyberem Jade Reynods, Ysgol Pontyberem Ela Mai Price, Ysgol Pontyberem
Arlunio Blwyddyn 3 a 4 Isabel Trigwell-Jones, Ysgol y Fro Sarah Davies, Ysgol y Fro Anwen Price, Ysgol Pontyberem
Arlunio Blwyddyn 5 a 6 Joanna Meliou, Ysgol y Fro Steffan Jones, Ysgol y Fro Caryl M Jones, Ysgol y Fro
Llawysgrifen i rai rhywng 10-12 Yazmin Evans-Morgan, Ysgol Pontyberem Thomas Williams, Ysgol Pontyberem Rebecca Wilson, Ysgol Bancffosfelen
Ffotograffiaeth i rai rhwng 8 a 12 Tilly Cole, Ysgol Pontyberem Katia Rose, Ysgol Pontyberem Tristan Jones, Ysgol Pontyberem

Adran Agored

Cystadleuaeth 1af 2ail 3ydd
Unawd dan 6 Iwan Rhys Bryer, Llanarthne Sara Evans, Tregaron  
Llefaru dan 6 Sara Evans, Tregaron Iwan Rhys Bryer, Llanarthne  
Unawd 6 -8 Erin Aled, Llanuwchllyn Megan Bryer, Llanarthne Sera Elan, Cwmann
Llefaru 6 -8 Megan Bryer, Llanarthne Erin Aled, Llanuwchllyn Sera Elan, Cwmann
Unawd 8 – 10 Sara Louise Davies, Synod Inn Seren Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol
Llefaru 8 – 10 Sara Louise Davies, Synod Inn Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol  
Unawd 10 -12 Osian Knott, Bancycapel Celyn Jones, Llanddarog Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth
Llefaru 10 -12 Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth    
Canu emyn dan 12 Sara Elan, Cwmann Mared Phillips, Llanfihangel ar Arth Cydradd 3ydd – Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol a Sara Louise Davies, Synod Inn
Unawd ar biano dan 12 Erin Aled, Llanuwchllyn Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth Ffion Mair Gibbon, Pedair Heol
Unawd 12-15 Gwenllian Phillips, Meidrim Eirian Jones, Pontiets  
Unawd ar unrhyw ar unrhyw offeryn cerdd(ac eithrio’r piano) dan 14 Erin Aled, LlanuwchllynTelyn Mared Phillips, Llanfihangel-ar-Arth Clarinet  
Unawd Piano dan 15 Gwenllian Phillips, Meidrim    
Unawd ar Biano dan 19 Manon James, Croesyceiliog    
Unawd dan 19 Caryl Lewis, Maenclochog Cerys James, Castell Newydd Emlyn Manon James, Croesyceiliog
Cȃn allan o sioe gerdd Caryl Lewis, Maenclochog Emyr Evans, Cwmgwili Cerys James, Castell Newydd Emlyn
Llefaru dan 19 Caryl Lewis, Maenclochog Cerys James, Castell Newydd Emlyn  
Canu Emyn Gwenllian Phillips, Meidrim Caryl Lewis, Maenclochog Cerys James, Castell Newydd Emlyn
Alaw Werin Caryl Lewis, Maenclochog Gwenllian Phillips, Meidrim  
Cȏr 25 o leisiau neu lai Cȏr Meibion Dyffryn Tywi    
Her Unawd Caryl Lewis, Maenclochog Gwynfor Harries, Blaenannerch  
Her Adroddiad Joy Parry, Cross Hands Maria Evans, Alltwalis Caryl Lewis, Maenclochog
Cenwch i’m yr hen ganiadau Gwynfor Harries, Blaenannerch    

Adran Llenyddiaeth

Cystadleuaeth 1af 2ail
Tlws yr Ifanc(dan 21) – Un o’r canlynol: Stori Fer, Dyddiadur, Cerdd neu Ysgrif Gruffydd Gwynn, Dolgellau  
Brawddeg ar y Gair – Brynglas Megan Richards, Aberaeron  
Cerdd rydd neu gaeth heb fod dros 30 llinell – Copa Rhys Gwynn, Dolgellau  
Cyfansoddi Emyn – Emyn ar gyfer angladd John Meurig Edwards, Aberhonddu Adrian Walters, Stratford-upon-Avon
Gorffen Limrig – ‘Wrth rodio ar hyd stryd fawr Crwbin’ John Meurig Edwards, Aberhonddu  
Llunio pedair dihareb newydd T Williams, Abergwaun  
Englyn digri neu ddwys ar y testun ‘Yn y Nos’ J Beynon Phillips, Caerfyrddin