Mae cystadlu mewn eisteddfodau lleol yn “gyfle i ddangos gwir botensial,” yn ôl y tenor adnabyddus o Bencader, Aled Hall.

Ar drothwy penwythnos mawr yn Llanbedr Pont Steffan gyda’r eisteddfod yn dathlu hanner can mlynedd eleni, mae’r tenor yn hel atgofion am ei brofiadau yntau o gystadlu.

Yn 1993, Aled Hall oedd y cyntaf erioed i ennill y gystadleuaeth ‘Llais Llwyfan’ sy’n rhoi ysgoloriaeth o £1,000 i’r enillydd o dan 30 oed.

“Dw i’n cofio’r profiad yn dda. Roedd e’n rhywbeth newydd, ac mi oedd hi’n fraint i gael ennill am y tro cyntaf erioed,” meddai wrth golwg360.

Mae gwobrau o £500, £300, £200 a £100 i’r pump uchaf hefyd ac, yn ôl Aled Hall, “mae cyfleoedd fel y rhain yn werthfawr.”

“Mi ddaeth yr arian yn handi dros ben i fi gael gorffen fy mlwyddyn olaf yn yr Academi yn Llundain,” meddai.

Arddangos potensial

Rhai o’r cantorion eraill sydd wedi ennill y wobr hon yn eu tro yw Rhian Lois, Gwawr Edwards a Robyn Lyn Evans.

Yn ôl Aled Hall, “mae cystadlu mewn eisteddfodau mor bwysig – mae’n brofiad i gael canu o flaen cynulleidfa. Ni’n lwcus fel Cymry achos rydyn ni’n gyfarwydd ag eisteddfota a chanu o flaen cynulleidfa”.

“Mae eisteddfodau yn gyfle i gantorion ddangos i feirniaid beth yw eu potensial. Efallai nad dyna eu gorau ar y pryd, ond mae’n gyfle i feirniaid weld potensial,” meddai wedyn.

Eisteddfod Aur Llanbedr Pont Steffan

Yn ôl un o drefnwyr Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen, “mae’n mynd yn fwy anodd i gael yr arian a’r gwobrau, ond ni’n benderfynol o gadw’r gystadleuaeth i fynd achos mae’n rhoi hwb i gantorion ifanc”.

“Mae’r gystadleuaeth wedi meithrin llawer o gantorion sydd wedi mynd ymlaen i bethau mawr.”

Ac wrth i’r eisteddfod ddathlu hanner can mlynedd eleni dywedodd – “mae’n achlysur hynod bwysig i’r ardal. Mae’n denu diddordeb pobol o bob cwr o Gymru a hefyd yn hybu diwylliant gan roi cyfle i blant a phobol leol fel ei gilydd.”

  • Bydd y gystadleuaeth ‘Llais Llwyfan’ yn cael ei chynnal nos Sul, Awst 27, gyda’r beirniaid yn cynnwys Bethan Dudley Fryar a Gareth Rhys Davies.