Mae awdures cyfrol fuddugol y Fedal Ryddiaith eleni wedi dweud fod angen “adfywiad” yn ffurf y stori fer Gymraeg.

Ddechrau’r mis, Sonia Edwards o Langefni enillodd y gystadleuaeth am yr eildro. Hi ddaeth i’r brig ddeunaw mlynedd yn ôl hefyd, yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1999.

Ac er ei bod wedi cyhoeddi sawl nofel, mae’n gweld gwerth yn ffurf y stori fer.

“Mae yna le iddi heddiw, yn enwedig a ninnau’n byw bywydau mor brysur,” meddai’r Prif Lenor Sonia Edwards wrth golwg360.

“Weithiau mae angen ailddarllen pennod o nofel ar ôl ei rhoi i lawr, ond mae stori fer yn rhywbeth cyfan sy’n medru aros efo chi.

Dal i ddysgu

Mae cystadlu mewn cystadlaethau llenyddol yn bwysig, meddai, oherwydd “waeth pa mor brofiadol ydan ni fel awduron, yn fy marn i, rydan ni’n dal i ddysgu efo pob cyfrol”.

Y cymeriadau sy’n dod gyntaf iddi hi wrth ysgrifennu, meddai wedyn, “ac mae’r rheiny yn bwysicach na’r plot mewn un ystyr… Unwaith mae’r cymeriad yn fyw yn eich dwylo, mae’r stori fel petai’n sgwennu ei hun.”

Mae chwe stori yn ei chyfrol fuddugol, a dyma glip o’r awdures yn darllen darn o’r stori deitl, ‘Rhannu Ambarél’.

Ar y gweill…

Yn ystod y seremoni ym Môn ddechrau Awst, roedd yr Archdderwydd Geraint Llifon o dan deimlad wrth ei gwobrwyo.

“Dw i’n meddwl mai’r rheswm am hynny oedd y cysylltiad rhyngom. Mi ddechreuais i ysgrifennu a chyhoeddi efo Gwasg Gwynedd efo’i frawd, Gerallt Lloyd Owen. Ac erbyn hyn dw i wedi dod yn ôl i gyhoeddi efo Gwasg Y Bwthyn lle mae Geraint yn gyfarwyddwr,” meddai.

Mae nofel i’r arddegau; dilyniant i Mynd adre’n droednoeth; ynghyd â nofel arall i oedolion ar y gweill ganddi.