Irfon Williams yn codi arian tros elusen ganser yn Eisteddfod 2014
Fe fydd gweddw’r ymgyrchydd canser, Irfon Williams, yn derbyn tystysgrif ar ei ran y bore yma, wrth i lu o bobol gael eu hurddo yn aelodau Gorsedd y Beirdd.

Cafodd y cyn-nyrs o Fangor wybod ei fod wedi cael ei dderbyn i’r Orsedd ychydig cyn iddo farw o ganser ym mis Mai eleni.

Ei weddw, Rebecca, fydd yn derbyn yr anrhydedd ar ei ran ac mae disgwyl iddi ddarllen ychydig o eiriau am ei diweddar ŵr.

Ymgyrchu

Fe ddaeth yn adnabyddus wrth alw am yr hawl i dderbyn cyffur a allai ymestyn ei fywyd – er nad oedd ar gael yng Nghymru.

Sefydlodd Irfon Williams yr ymgyrch Hawl i Fyw a sicrhaodd fod unigolion sy’n dioddef o ganser yn cael yr un cyfleoedd am driniaeth yng Nghymru â chleifion mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.

“Dyma ddyn mewn miliwn, ac mae ei ymgyrchu wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ac urddas cleifion yng Nghymru,” meddai’r Eisteddfod.