Llwyfan Cymdeithas yr Iaith Fferm Penrhos (Llun: golwg360)
Gwell chwrw Lloegr na llaeth Cymru yw hi ar faes Cymdeithas yr Iaith eleni, mae’n ymddangos.

Mae’r poster eiconig o’r storïwr Eirwyn Jones – neu Eirwyn ‘Dosha’ Pontsiân – â’r capsiwn “Gwell Llaeth Cymru na Chwrw Lloegr” i’w weld ar lwyfan safle’r mudiad. 

Ond, er neges y poster, nid oes diferyn o gwrw Cymreig ar werth ym mar y mudiad ar Fferm Penrhos, Bodedern.

Sefyllfa wahanol sydd ar Faes yr Eisteddfod, gyda bar Syched yn cynnig arlwy o gwrw a seidr Cymreig yn unig ar eu tapiau nhw.

Cefnogi mudiad arall

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi amddiffyn absenoldeb cwrw Cymreig ar fferm Penrhos gan nodi mai’r Mudiad Ffermwyr Ifanc lleol sy’n gyfrifol am ddarparu alcohol yno.

“Mudiad Ffermwyr Ifanc Sir Fôn sy’n gyfrifol am y bar ar y maes,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Rydyn ni’n falch i allu cydweithio efo nhw er mwyn rhoi arian i mewn i’r gymuned leol a chefnogi mudiad gwirfoddol arall.”