Yr hyn ymddangosodd ar y sgrin...
Mae yna ddryswch ynglyn â chamgymeriad cyfieithu a ymddangosoddd yn yr is-deitlau yn ystod un o raglenni byw o’r Eisteddfod ddydd Sul.

Roedd Cefin Roberts yn siarad â’r gohebydd cefn llwyfan, Steffan Messenger, wedi i Gôr Glanaethwy berfformio yn y gystadleuaeth Rhaglen Adloniant yn y pafiliwn brynhawn ddoe.

Roedd hynny ychydig dros hanner ffordd trwy’r 14 o gorau a fu’n cyflwyno hyd at 12 munud o raglen yr un; a chyn i wraig Cefin, Rhian Roberts, arwain Cor Iau Glanaethwy yn erbyn yr aelodau hŷn.

Ar ddiwedd y cyfweliad, a oedd yn cael ei gyfieithu ar y pryd ar ffurf is-deitlau Saesneg ar waelod y sgrin, mae’r holwr yn diolch i’r arweinydd am y sgwrs – ac mae hynny’n cael ei nodi mewn Saesneg cywir: “Thank you very much for talking to us”. 

Ond wedyn, mae cymal hollol anghysylltiedig yn ymddangos, yn dweud “Your brother is about to bash your wife”.

Mae Cefin Roberts yn ymwybodol o’r camgymeriad, wedi iddo weld cyfeiriad ato ar wefan gymdeithasol.

“Mae camgymeriadau yn gallu digwydd hefo unrhyw isdeitlo byw – gobeithio na wnaeth yr achos yma amharu’n ormodol ar fwynhad ein gwylwyr,” meddai llefarydd ar ran S4C, gan nodi mai BBC Cymru sy’n gyfrifol am y darllediad ac am y cyfieithu sy’n digwydd fel rhan o’r rhaglenni sy’n cael eu darlledu ar y sianel.