Mae’r chwe chystadleuydd fydd yn ymgeisio am Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni wedi’u dewis ar ddiwedd prifwyl ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elai.

Delyth Medi, Sioned Terry, Eirlys Britton, Davinder Singh a Catherine Ayres oedd ar y panel dewis eleni, ac roedden nhw’n rhydd i ddewis y cystadleuwyr mwyaf addawol rhwng 19 a 25 oed.  

Dyma pwy fydd yn cystadlu am yr Ysgoloriaeth:

Daniel Jones – Ysgol Gyfun Plasmawr

Harry Lovell Jones, Aelwyd Llundain

John Ieuan Jones, Aelod Unigol, Cylch Bro Dulais

Megan Llŷn, Aelwyd Llundain

Sioned Hâf Llywelyn – Aelwyd Crymych

Cedron Siôn, Aelod Unigol, Cylch Eifionydd

Bydd y gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal yn Theatr Sony nos Sadwrn, Hydref 14.

Bydd yr enillydd yn cael gwobr ariannol o £4,000 i’w ddefnyddio er mwyn datblygu eu talent i’r dyfodol.