(llun: PA)
Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Mon eleni wedi cyrraedd £385,000 – ond mae Cadeirydd y pwyllgor gwaith yn dweud eu bod nhw bellach yn anelu am £400,000.

Yng nghyfarfod Cyngor y brifwyl yn Aberystwyth heddiw, fe ddarllenwyd adroddiad ysgrifenedig gan Derec Llwyd Morgan yn cadarnhau’r cyfanswm diweddaraf.

Ond roedd yn pwysleisio hefyd bod sawl ardal yn dal i drefnu gweithgareddau codi arian.

£300,000 oedd y targed gwreiddiol ar gyfer Ynys Mon, yr un ffigwr ag sydd wedi’i osod i drigolion Caerdydd yn 2018.

Fe fydd seremoni cyhoeddi prifwyl y brifddinas yn cael ei chynnal ar Fehefin 24 eleni, gan gyd-daro’n fwiadol â phenwythnos agoriadol Tafwyl ar gaeau Llandaf.