Mae Pafiliwn newydd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ennill un o wobrau mawr y diwydiant gwyliau ledled gwledydd Prydain.

Fe dderbyniodd cwmni Neptunus, sy’n gyfrifol am yr adeilad, y wobr am y Strwythur Dros-Dro Gorau yng ngwobrau’r Festival Supplier Awards yn Llundain ar ddiwedd yr wythnos ddiwetha’.

Cafodd ei ganmol gan feirniaid y gwobrau am ei fod “yn darparu ateb arloesol i ddigwyddiad proffil-uchel, gan wella’r profiad ar gyfer pawb a chan godi safon y cynhyrchiad ar gyfer yr elfennau darlledu”.

“2016 oedd blwyddyn gyntaf y strwythur newydd, ac rydym ni a Neptunus yn hynod falch gyda’r ymateb gan ein hymwelwyr a gan y diwydiant gwyliau,” meddai Huw Aled Jones, Pennaeth Technegol yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Yn ddi-os, roedd y profiad o fod yn y Pafiliwn newydd yn gwbwl wahanol i’r hyn a gafwyd yn y babell fawr binc, gyda’r ansawdd gymaint yn well ar gyfer perfformwyr ac artistiaid, cystadleuwyr a’r gynulleidfa.

“Roedd y strwythur newydd hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy beiddgar ac arbrofol gyda goleuadau a sain, gan greu awyrgylch llawer mwy safonol a phroffesiynol ar brif lwyfan yr Eisteddfod.”

Bydd y Pafiliwn newydd yn dychwelyd i Faes yr Eisteddfod eleni, pan gynhelir y brifwyl ar gyrion pentre’ Bodedern wythnos gyntaf Awst.