Helena Jones
Ar lwyfan y pafiliwn y prynhawn yma mentrodd dynes sydd bron iawn yn 100 oed i gystadlu yng nghystadleuaeth llefaru unigol i ddysgwyr i rai dros 16 oed.

Dywedodd Helena Jones, sy’n byw yn Aberhonddu, bod dysgu’r darn ‘A gymri di Gymru?’ wedi bod yn her “am fod pob llinell yn gwestiwn.”

“Ond, roeddwn i’n benderfynol o roi cynnig arni,” meddai’r ddynes sydd wedi bod yn cystadlu mewn eisteddfodau ers yn bedair oed.

Cyfraniad i eisteddfod leol

Ar y maes ddoe, daeth anrhydedd arall i Helena Jones wrth i Gymdeithas Eisteddfodau Cymru gydnabod ei chyfraniad wedi iddi sefydlu a chynnal Eisteddfod y Trallong ger Pont Senni.

Dywedodd Helena Jones ei bod wedi penderfynu sefydlu’r eisteddfod leol honno chwe deg mlynedd yn ôl pan oedd yn athrawes yn ysgol gynradd Trallong.

“Ond mi aeth o nerth i nerth, ac mi benderfynon ei gwneud hi bob blwyddyn,” meddai.

Mae Helena Jones wedi dysgu a hyfforddi cannoedd o blant ar hyd y blynyddoedd, gan ddysgu’r canwr adnabyddus Rhydian Roberts yn yr ysgol hefyd.

Ond eleni, penderfynodd mai ei thro hi oedd hi.