Mae’r Urdd wedi cyhoeddi pwy fydd yn perfformio yn ystod Penwythnos Cymreig parc Disneyland, Paris, ddechrau mis Mawrth.

Rhwng Mawrth 4-6, fe fydd pump o enillwyr Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch yn teithio i Disneyland Paris i berfformio.

Y pump enillydd a’u teuluoedd fydd yn teithio i Baris eleni yw:

  • Marged Jones o Ysgol Gynradd Y Dderwen, enillydd unawd Bl2 ac iau
  • Siwan Jones o Ysgol Gynradd Y Dderwen, enillydd unawd Bl 3 – 4
  • Lowri Davies o Ysgol Gynradd Talgarreg, enillydd unawd Bl 5 a 6
  • Daniel Calan Jones, Ysgol Gyfun Plasmawr, enillydd dawns unigol i fechgyn Bl9 ac iau
  • Caitlin Drake, Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd, enillydd unawd sioe gerdd Bl 10 – o dan 19 oed

Byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd dydd Mawrth, 9 Chwefror, pan gânt fwy o wybodaeth am y penwythnos Cymreig gan Paul Heustice o Disneyland Paris.