Y Dydd Olaf
gan Gwenno Saunders sydd wedi cipio gwobr Albwm y Flwyddyn ar ôl dod i’r brig ar restr fer o ddeg artist Cymraeg.

Cafodd ei halbwm ei dewis gan feirniaid y gystadleuaeth o flaen recordiau gan sawl artist a grŵp adnabyddus arall gan gynnwys Candelas, 9 Bach, Al Lewis ac Yws Gwynedd.

Roedd y wobr, sydd yn ei hail flwyddyn, yn cael ei chyflwyno yng Nghaffi Maes B ar faes yr Eisteddfod heddiw.

Enillydd y wobr y llynedd oedd The Gentle Good, am ei albwm Y Bardd Anfarwol – a ysbrydolodd waith buddugol y Fedal Drama eleni.

Y rhestr fer yn llawn oedd: 9 Bach – Tincian (Real World); Al Lewis – Heulwen o Hiraeth (Al Lewis); Candelas – Bodoli’n Ddistaw (I-Kaching); Datblygu – Erbyn Hyn (Ankst Music); Fernhill – Amser; Gwenno – Y Dydd Olaf (Peski); Yws Gwynedd – Codi/\Cysgu; Geraint Jarman – Dwyn yr Hogyn Nol (Ankst); Plu – Holl Anifeiliaid y Goedwig (Sain); R Seiliog – In HZ (Turnstyle).