Gareth Potter
Ni fyddai’r cerddor, y DJ a’r awdur Gareth Potter wedi mwynhau gyrfa mor amrywiol a hirhoedlog oni bai am y cyfleodd a gafodd gydag Eisteddfod yr Urdd, meddai wrth golwg360 heddiw.

Er iddo ymddangos mewn nifer o gyfresi teledu poblogaidd fel Eastenders, District Nurse a Dinas, mae’n cofio’r adegau hynny yn ei ddyddiau cynnar pan ymddangosodd ar lwyfan yr Urdd fel ddoe.

Yn ogystal ag actio, mae Gareth Potter, sy’n wreiddiol o Gaerffili, yn ganwr adnabyddus sydd wedi perfformio yn y grwpiau Pop Negatif Wastad, Traddodiad Ofnus a Tŷ Gwydr.

Uno’r de a’r gogledd

Dywedodd Gareth Potter, sy’n Lywydd y Dydd ac yn arwain ar y prif lwyfan heddiw, fod yr Urdd yn helpu i uno’r wlad.

“Mae’n dod â phobol ifanc at ei gilydd ac yn helpu cael gwared ar y syniad fod gogledd Cymru’n wahanol i dde Cymru – oes, mae gwahaniaethau’n bodoli, ond mae gennym ni lawer mwy yn gyffredin,” meddai.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn gwneud i Gymru deimlo’n llai, ac yn rhoi’r cyfle i ddod i adnabod gwahanol bobl a gwneud ffrindiau oes.”

Galw am rywbeth modern

Ychwanegodd Gareth Potter ei fod am i gystadlaethau newydd gael eu cyflwyno yn y blynyddoedd i ddod.

“Hoffwn weld cystadlaethau ble mae pobl yn dehongli caneuon cyfoes Cymraeg. Rydym ni’n canolbwyntio cymaint ar waith beirdd fel Waldo Williams a T H Parry Williams – mi fyddai’n wych gweld côr, parti llefaru neu ddawnswyr gwerin yn dehongli rhywbeth mwy modern.