Ceri Wyn Jones
Y Prifardd Ceri Wyn Jones sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Sir Gâr eleni.

Cyflwynwyd y Gadair iddo mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn y prynhawn yma.

Dyma’r ail Gadair iddo ennill, yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau yn 1997. Fe enillodd y Goron yn Eisteddfod Y Bala bum mlynedd yn ôl hefyd.

‘Lloches’ oedd y teitl gosod eleni, gyda gofyn i gystadleuwyr sgwennu awdl 250 llinell ar fwy nag un o’r mesurau caeth, a’r beirniaid oedd Llion Jones, Alan Llwyd ac Idris Reynolds.

Cyn traddodi’r feirniadaeth, fe wnaeth yr Archdderwydd Christine James gyfeirio at farwolaeth ddiweddar Gerallt Lloyd Owen, a enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cricieth 1975 ac Abertawe 1982.

Safon

Wrth draddodi’r feirniadaeth ar lwyfan y Pafiliwn dywedodd Llion Jones bod gwaith Cadwgan, sef ffug enw’r bardd buddugol, yn “cynnig yr antidôt angenrheidiol i gystadleuaeth syndod o ddi-fflach.”

“Lle mae lleoliad nifer o’r awdlau eraill yn amhendant ac annelwig, mae hon wedi’i lleoli’n ddiamwys yn nhref Aberteifi heddiw. Mewn cystadleuaeth sydd mewn peryg o suddo dan faich haniaethau, dyma ganu diriaethol gan fardd sydd â llygaid i weld.

“Mewn cystadleuaeth, lle mae llawer iawn o gynganeddu blinedig a llafurus, dyma waith sy’n danchwa o drawiadau newydd ac annisgwyl. Yng nghwmni beirdd lluddedig eu hiaith, dyma fardd ag egni yn ei ieithwedd a dawn loyw i amrywio’i gyweiriau i bwrpas.

“Os ydy bydolwg trwch yr awdlau eraill braidd yn unffurf a threuliedig, dyma fardd sy’n dod at ei destun ar hyd nifer o wahanol lwybrau gan agor sawl trywydd i’r darllenydd.

“Mae’r bardd yn codi cwestiynau anodd y byddai’n llawer haws dianc a cheisio lloches rhagddynt . Ond fel y dywedodd y bocsiwr Joe Louis gynt, fe gawn redeg a rhedeg ond does dim cuddio i fod.  Am iddo fynd ati i wyntyllu’r cwestiynau hynny, gydag awen lachar a gwreiddiol, y mae Cadwgan yn llwyr haeddu cadair Eisteddfod Sir Gâr.”

Cysylltiad

O Aberteifi y daw Ceri Wyn Jones yn wreiddiol ond mae ganddo gysylltiadau agos iawn â chartre’r Brifwyl eleni.

Fe briododd ei rieni, Dafydd a Helen, yng nghapel Tabernacl yn Llanelli lle’r oedd taid Ceri, y Parchedig R. Gwynedd Jones, yn weinidog, a’i dad-cu, Hubert Thomas, yn ysgrifennydd. Yno hefyd roedd ei nain, Eleanor a’i nan, Peggy, yn aelodau amlwg.

Mae’n gweithio rhan o’i amser fel golygydd llyfrau i Wasg Gomer, yn ogystal ac fel awdur a darlledwr ar ei liwt ei hun. Mae’n briod â Catrin, ac mae ganddyn nhw dri o blant- Gruffudd, Ifan a Gwilym.