Fe ddaeth 17,507 o bobol drwy glwydi’r brifwyl ar dir Fferm Kilford ger Dinbych heddiw, gan fynd â chyfanswm yr ymwelwyr dros yr wythnos ddiwetha’ i 153,606.
Ar ôl torf anferth o 28,237 ar y dydd Gwener, fe lwyddodd y trefnwyr i groesi rhicyn y 150,000 yr oedden nhw wedi ei osod iddyn nhw’u hunain.
Dyma sut oedd y niferoedd yn amrywio yn ystod yr wythnos:
Nos Wener – 2,202
Dydd Sadwrn cynta’ – 16,571
Dydd Sul – 16,032
Dydd Llun – 15,754
Dydd Mawrth – 17,813
Dydd Mercher – 19,626
Dydd Iau – 19,864
Dydd Gwener – 28,237
Dydd Sadwrn – 17,507