Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych
Ieuan Wyn o Gaerdydd sydd wedi ennill Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych eleni.
Ar gyfer y gystadleuaeth gofynwyd am ddarn corawl di-gyfeiliant seciwlar rhwng pedwar a saith munud o hyd.
Roedd wyth wedi ymgeisio a chafodd y gwaith ei feirniadu gan Sioned James ac Owain Llwyd. Roedd y ddau yn cytuno mai gwaith ‘Fi’ oedd yn haeddu’r wobr a’r clod.
Yn ol y beirniaid mae’r cyfansoddwr hwn wedi dewis “alaw syml a phrydferth wedi’i phlethu â harmonïau soniarus a hudol. Mae natur y darn yn gweddu i unrhyw gôr amatur cyfoes ac mae’n ddarn gafaelgar o’r bar cyntaf.”
Cafodd Ieuan Wyn ei eni yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Ar ôl derbyn ei addysg uwchradd yn ysgolion Plasmawr a Glantaf, symudodd i Fangor i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Wedi hynny, cafodd addysg bellach ar gwrs MSc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru.
Ers cwblhau ei addysg, mae wedi bod yn gweithio fel recordydd sain i gwmni adnoddau ‘Gorilla’ yn y brifddinas. Trwy ei waith, mae wedi cael y cyfle i gyfansoddi a threfnu nifer o ganeuon i’w darlledu ar Cyw a Stwnsh ar S4C.
Mae’n aelod o Gôr Caerdydd ers blynyddoedd a thrwy hynny y cafodd y cyfle cyntaf i drefnu ac ysgrifennu gweithiau corawl.
Yn ogystal â derbyn Tlws y Cerddor sy’n cael ei roi gan Urdd Cerddoriaeth Cymru unwaith eto eleni, mae’r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £500 sydd yn cael ei rhoi gan Gymdeithas Gorawl Dinbych.
Mae’r enillydd hefyd yn cael cynnig ysgoloriaeth gwerth £2,000 gan yr Eisteddfod Genedlaethol i hyrwyddo eu gyrfa.