Fe fydd dathliad arbennig yn ystod Cân i Gymru heno (nos Sadwrn, Chwefror 29) i nodi 30 mlynedd ers buddugoliaeth Sobin a’r Smaeliaid gyda’r gân ‘Gwlad yr Rasda Gwyn’.

Bydd y gystadleuaeth flynyddol yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth am 8 o’r gloch, gyda’r cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.

Ar drothwy’r gystadleuaeth, mae’r canwr Bryn Fôn wedi bod yn rhannu ei atgofion o’r gystadleuaeth yn 1990, pan enillodd e ar y cyd â Rhys Parry.

“Mae’n rhyfeddol meddwl fod deg mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i Rasda fynd â hi,” meddai, ac yntau’n beirniadu eleni.

Y beirniaid eraill yw Ani Glass, Georgia Ruth ac Owain Roberts.

‘Two-page spread’ yn y papur

“Mi fydd hi’n braf camu i’r llwyfan heb y pwysau o gystadlu,” meddai Bryn Fôn wedyn.

“Dwi newydd ffeindio toriadau o hen bapurau newydd oedd fy Mam wedi cadw.

“Digwydd bod roedd two-page spread am Cân i Gymru 1990 yn rhestru pawb ath trwyddo.

“Diddorol iawn gan mod i wedi anghofio pwy arall oedd yn cystadlu. Wedi’u rhestru roedd Eryr Wen, Gareth Morlais a dwy ferch o Ben-Llyn.

“Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad y bysa un o’r merchaid hynny yn dod i ganu gyda Sobin a’r Smaeliaid ychydig yn ddiweddarach.

“Roedd hi’n dipyn o dasg dewis wyth cân gan fod lot o geisiadau da. Mae’r pedwar ohonom yn cynrychioli gwahanol fathau o gerddoriaeth, felly dwi’n credu fod dipyn o drawsdoriad.

“Mae na amrywiaeth da, rhywbeth i bawb. Fydd hi’n gystadleuaeth agos iawn dwi’m yn ama gan fod sawl cân yn sefyll allan.”

Y cystadleuwyr eleni

Bydd enillydd y wobr am y gân fuddugol yn derbyn £5,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd.

Yn cystadlu am y wobr eleni mae:

  • Arianrhod gan Beth Celyn
  • Adref yn ôl gan Tesni Jones; Sara Williams, Roo Walker;
  • Dawnsio’n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren;
  • Pan Fyddai’n 80 Oed gan Rhydian Meilir;
  • Morfa Madryn gan Alistair James;
  • Y Tir a’r Môr gan Rhydian Meilir;
  • Cyn i’r Lleni Gau gan Gruffydd Wyn a Tim Goodcare
  • Anochel gan Aled Mills.

“Mae’r panel eleni, sef Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Roberts wedi dewis wyth cân wych,” meddai Siôn Llwyd o’r cwmni cynhyrchu Avanti.

“Ond yn ogystal â chael mwynhau y caneuon gwreiddiol, newydd sbon yma, bydd Bryn Fôn yn mynd â ni nôl i’r nawdegau gyda perfformiad arbennig o Gwlad yr Rasda Gwyn i nodi ei bod hi’n dri deg blwyddyn ers i’r gân gipio tlws Cân i Gymru.

“Ymhlith yr wyth act bydd sawl wyneb cyfarwydd gyda rhai eisoes wedi cystadlu ac ambell un wedi ymddangos ar Britain’s Got Talent a The Voice.”

Bydd manylion am sut i bleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen, a’r gân fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar S4C.