Rhydian Jenkins, tenor 22 oed o Faesteg, sydd wedi ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel eleni.

Fe ddaeth i frig y gystadleuaeth a gafodd ei darlledu’n fyw neithiwr (nos Sadwrn, Hydref 12) o Neuadd Goffa’r Barri.

Fe drechodd bump o gystadleuwyr eraill i sicrhau’r wobr o £4,000 i gael datblygu ei yrfa, wrth greu argraff ar y beirniaid Glain Dafydd, Jeremy Huw Williams, Cerian Phillips, Ffion Dafis, Einir Wyn Jones a Gwenno Mair Davies.

Y rhai eraill yn y rownd derfynol oedd Cai Fôn Davies o Fangor, Daniel Calan Jones o Gaerdydd, Morgan Llewelyn-Jones o Gwm Gwendraeth, Thomas Mathias o Aberystwyth a Steffan Lloyd Owen o Bentre Berw.

Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i berfformio yn un o ddathliadau byd-eang Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.

Penderfyniad ‘cwbwl unfrydol’

“Roedden ni yn gwbwl unfrydol,” meddai Einir Wyn Jones am benderfyniad y panel.

“Fe gawson ni ein cyfareddu. Roedd y gystadleuaeth i  gyd yn wirioneddol wych a phob un yn eu maes yn gofiadwy iawn.

“Rydyn ni wedi cael gwledd, mae’r gynulleidfa wedi cael gwledd a rydyn ni wedi mwynhau bob munud. Ond, mae ‘na un sydd wedi ein cyffroi ni heno…

“Ei raglen gynhwysfawr, y ffordd roedd o’n cyfathrebu hefo’r gynulleidfa ac, i mi yn bersonol, y canu cynnil… Mae o’n wirioneddol wych.”

Yr enillydd

Mae Rhydian Jenkins yn astudio llais a pherfformio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Bu’n fyfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg cyn cwblhau blwyddyn ar gwrs TAR Cynradd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Profodd lwyddiant ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol gan ennill Gwobr Dr Aled Lloyd Davies i Unawdydd Cerdd Dant dros 21 yng Nghaerdydd yn 2018.

Daeth rhagor o lwyddiannau yn Sir Conwy wrth iddo gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth yr Unawd Tenor, Unawd Lieder o dan 25 oed a Gwobr Goffa’r Fonesig Herbert i unawdwyr Alaw Werin agored.

Mae hefyd yn chwaraewr rygbi i dîm Pontypridd yn uwch-gynghrair rygbi Cymru.

“Sa i’n siŵr os yw geiriau’n gallu cyfleu sut ‘wy’n teimlo…,” meddai yn dilyn ei fuddugoliaeth.

“Dyma’r eildro i mi gystadlu ac mae’r safon wedi mynd lan bob tro. Mae’n fraint cael cystadlu eto.

“Mae dwy flynedd gyda fi ar ôl ar fy nghwrs coleg ac ‘yf i’n gobeithio astudio opera ar ôl hyn – bydda i’n defnyddio’r arian ar gyfer hynny…

“Dyma binacl fy ngyrfa hyd yn hyn.. a phwy a wŷr beth sydd ar y gweill nawr.”