Tenor o Tsieina sydd wedi ennill Gwobr y Gân yng nghystadleuaeth Canwr y Byd BBC 2019.

Ar ôl perfformio o flaen panel arbennig o feirniaid yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd neithiwr (nos Iau, Mehefin 20), fe lwyddodd Mingijie Lei, 31, i ennill y wobr o £10,000.

“Dw i wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr y Gân yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd, Caerdydd,” meddai Mingijie Lei.

“Mae’n anrhydedd i ymuno gyda’r rhestr o enillwyr, a dw i mor ddiolchgar am gefnogaeth anhygoel y gynulleidfa.”

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd y baswr Patrick Guetti, 31, o’r Unol Daleithiau, a’r bariton Andrei Kymach, 31, o’r Wcráin yn drydydd.

Yn bedwerydd oedd y soprano Sooyeon Lee, 30, o Dde Corea a’r mezzo-soprano Guadalupe Barrientos, 32, o’r Ariannin yn bumed.

Rownd derfynol werth £20,000

Fe fydd y pum canwr yn cystadlu am y Brif Wobr yn y rownd derfynol fory (dydd Sadwrn, Mehefin 22).

Gyda chyfeiliant y Gerddorfa Genedlaethol Gymreig o dan arweiniad Ariane Matiakh ac Ewa Strusińska, bydd yr enillydd yn ymgiprys am Dlws Caerdydd, teitl Canwr y Byd Caerdydd a gwobr gwerth £20,000.

Ar y panel o feirniaid bydd Cyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru, David Pountney; y canwr José Cura; Felicity Lott, Federica von Stade, a sylfaenydd Grange Park Opera Surrey, Wasfi Kani.