Ysgol Gerdd Ceredigion ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Côr Cymru neithiwr (nos Sul, Ebrill 7), wrth i’r arweinydd Islwyn Evans gipio’r wobr am y chweched tro.

Bydd y côr nawr yn cael cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision Choir yn Gothenburg ym mis Awst, ac maen nhw’n ennill tlws a gwobr ariannol o £5,000.

Curodd y côr Johns’ Boys o Rosllannerchrugog, CF1 o Gaerdydd, Côr Ieuenctid Môn a Chôr Sioe Ieuenctid Môn yn y rownd derfynol yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a gafodd ei darlledu’n fyw ar S4C (Rondo) yng nghwmni Heledd Cynwal a Morgan Jones.

Er mwyn cyrraedd y rownd derfynol, fe guron nhw Côr Aelwyd JMJ a Chôr y Cwm yng nghategori’r Corau Ieuenctid.

“Dw i wedi ennill o’r blaen, ond mae aelodau’r côr yn wahanol,” meddai Islwyn Evans wedi’r fuddugoliaeth.

“Mae’r criw wedi bod yn ffantastig ac mae gwefr ac awyrgylch y gystadleuaeth hon yn arbennig.”

Roedd gwobrau hefyd i Gôr Sioe Ieuenctid Môn (Dewis y Gwylwyr) a’u harweinydd Mari Pritchard (Gwobr yr Arweinydd).

‘Kudos’

“Mae wastad yn braf ennill unrhyw gystadleuaeth ond mae’r ffaith bod hon yn cael ei threfnu a’i darlledu gan S4C dros gyfnod o bum wythnos yn rhoi tipyn o kudos iddi yng nghalendr corawl Cymru,” meddai Islwyn Evans cyn y gystadleuaeth.

Mae’n dweud bod y gystadleuaeth wedi helpu’r côr i godi ei safonau dros y blynyddoedd.

“Yn ddi-os, ers ei sefydlu, mae’r gystadleuaeth hon wedi codi’n gêm ni fel arweinyddion yn ogystal â’r cantorion.”

Côr Cymru Cynradd

Nos Sadwrn, cipiodd Ysgol Gymraeg Teilo Sant yn Llandeilo dlws Côr Cymru Cynradd, gan guro Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn o’r Porth, Ysgol Gymraeg Llangennech ac Ysgol Pen Barras o Ruthun.

“Mae’n anrhydedd fawr i dderbyn y tlws,” meddai’r arweinydd Nia Clwyd.

“Hoffwn ddiolch i’r plant a’u rhieni am eu holl waith called, gwaith y plant sy’n gyfrifol am y llwyddiant.”

Y beirniaid ar gyfer y ddwy gystadleuaeth oedd Anna Wilczewska, Huw Humphreys a Karmina Šilec.