Daeth Côr Ysgol Gymraeg Teilo Sant yn Llandeilo i frig cystadleuaeth Côr Cynradd Côr Cymru 2019 neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 6).

Curon nhw Ysgol Llangennech, Ysgol Llwyncelyn o’r Porth yn y Rhondda ac Ysgol Pen Barras o Ruthun yn y rownd derfynol yn Aberystwyth.

Y caneuon

Eu cân gyntaf oedd ‘Hei, ti’n cŵl’ gan Robat Arwyn, a oedd yn “ddewis hollol wych” yn ôl Elin Manahan Thomas, oedd yn cynnig sylwebaeth ar y gystadleuaeth.

Eu hail ddewis oedd ‘Nkosi Sikelel’ iafrika’, anthem genedlaethol De Affrica a honno, meddai yn creu “sain hyfryd” wrth gael ei pherfformio’n ddigyfeiliant.

Fe ddangosodd y côr eu bod nhw’n gallu “cynnal y sain” wrth ganu trefniant Ruth Elaine Schram o ‘Suo Gân’ fel eu trydydd dewis.

Daeth y perfformiad i ben gyda pherfformiad o ‘Glyndŵr’ gan Leah Owen a honno’n arwain Elin Manahan Thomas i ddweud nad oedd hi “erioed wedi gweld shwd gymaint o ymdrech” yn mynd i mewn i berfformiad.

Wrth bwyso a mesur eu perfformiad, ychwanegodd y “gallen nhw ddysgu gwers i ambell i gôr o oedolion”.

Tro yr oedolion fydd hi heno, wrth i Ysgol Gerdd Ceredigion, Johns’ Boys, CF1 a Chôr Ieuenctid Môn frwydr am goron Côr Cymru 2019.