Mae Meic Stevens a Geraint Jarman ymhlith prif artistiaid Sesiwn Fawr Dolgellau, a fydd yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 19-21.

Cafodd yr enwau eu cyhoeddi yn ystod Gŵyl Gwrw flynyddol y dref yn Nhŷ Siamas.

Hefyd yn ymddangos mae Gwilym Bowen Rhys, Rusty Shackle, Hywel Pitts a’r Three Legg’d Mare.

Ymhlith y bandiau a fydd yn perfformio mae Candelas, Gwilym, Lewys, Bwncath, Estella, Vrï

Bydd gweithgareddau i blant yn ystod y dydd Sadwrn, digwyddiadau llenyddol a noson gomedi ar y nos Sul yn serennu Beth Angell, Eleri Morgan, Beth Jones, Siôn Tomos Owens a Daniel Glyn.

Mae’r trefnwyr yn dweud bod disgwyl i’r tocynnau cynnar werthu allan, fel y gwnaethon nhw dros y ddwy flynedd ddiwethaf.