Mae Cian Ciarán, is-gadeirydd Yes Cymru, yn dweud ei fod e wedi cynnal digwyddiad ‘Gellir Gwell / Yes is More’ yng Nghaerdydd nos Wener diwethaf er mwyn “normaleiddio’r sgwrs am annibyniaeth”.

Daeth cerddorion Cymraeg a Saesneg eu hiaith at ei gilydd yn y Tramshed yn y brifddinas ar gyfer y digwyddiad diwylliannol mwyaf hyd yn hyn yn enw’r mudiad annibyniaeth.

Chwaraewr allweddellau’r Super Furry Animals oedd prif drefnydd y digwyddiad “ysbrydoledig”.

“O’n i jyst yn rhedeg rownd nos a dydd, felly ches i ddim cyfle i absorbio’r awyrgylch,” meddai wrth golwg360. “Ond o’r hyn wnes i glywed a gweld, ro’n i’n cael yr argraff fod pawb yn mwynhau a bod o’n eitha’ ysbrydoledig.”

Pam nawr?

Mae’n dweud bod Brexit wedi creu sefyllfa o ddiflastod yng Nghymru a bod pobol yn “fed up efo gwleidyddion”.

“Rydan ni’n teimlo bod ein lleisiau ni ddim yn cael eu clywed, a’r gwleidyddion yn ein gadael ni lawr, nid yn unig yn San Steffan ond yng Nghaerdydd hefyd.

“Mae’r ffaith bo nhw’n rhoi pwerau’n ôl i Lundain… Wnes i ddarllen yn y newyddion bo nhw’n dal yn ôl ar Faes Awyr Caerdydd i helpu Bryste!

“So o’n i’n meddwl mai pethau fel’ma sydd ddim wedi bod yn y newyddion tan y ddwy flynedd nesa’, ac mae pobol yn dechrau sylweddoli hynny a deffro.”

‘Nid mudiad newydd yw hwn’

Gyda Yes Cymru, Undod a sawl mudiad arall yn ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, mae’n pwysleisio nad yw ‘Gellir Gwell / Yes is More’ yn fudiad ynddo’i hun, ond yn ffordd o ddefnyddio cerddoriaeth a’r celfyddydau i atgyfnerthu’r neges am annibyniaeth.

“Y bwriad wastad oedd anelu at drio creu rhyw fath o fomentwm. Do’n i ddim isio creu mudiad newydd – mae gen ti Yes Cymru, Undod a sawl un arall sydd yn gwneud y job.

“Ro’n i isio rhoi mwy o lais i artistiaid, ddim jyst cerddorion, beth bynnag ydi’u cyfrwng nhw, a bod hynny’n blatfform iddyn nhw gyfathrebu’r neges am annibyniaeth a’r ffeithiau, a sut fath o Gymru rydan ni isio.”

Ac mae’n pwysleisio’r angen i ddechrau’r sgwrs “rŵan yn hytrach nag yng nghanol refferendwm neu wbath lle mae’r celwyddau a’r triciau budr i gyd yn dod allan”, yn ogystal â’r ffaith nad pleidiau gwleidyddol yw’r mudiadau annibyniaeth.

“Dw i’n meddwl bod Yes Cymru yn llwyddiant dros y ddwy flynedd diwetha’, ti’n gweld cymaint mae o wedi tyfu. Mae pobol angen dod i’r casgliad yna drostyn nhw eu hunain.”

Grym cerddoriaeth

Mae’n dweud bod cerddoriaeth yn arf bwerus yn y mudiad annibyniaeth fel dull o gyfathrebu â’r gynulleidfa darged.

“Mae cerddoriaeth a chelf yn ffordd bwerus o gyfathrebu efo’r cyhoedd. Mae o’n emotive. Mae pobol yn uniaethu efo fo.

“Mae cerddoriaeth fatha ‘A Change Is Gonna Come’ gan Sam Cooke yn cael ei defnyddio o hyd, achos dydi miwsig ddim yn gorfod bod yn rhywbeth angst-ridden i greu reiat.”