Mae’r cyfansoddwr o Rachub a gitarydd Celt, Barry ‘Archie’ Jones, wrthi’n cyfansoddi caneuon newydd o safbwynt dynes yn hytrach nag o’i safbwynt o’i hun.

Mae ei brosiect – Band of Hope – yn ffrwyth “cwpwl o flynyddoedd” o waith, meddai. Mae tair cân eisoes ar gael i’w clywed ar wefan Soundcloud, ac mae rhagor i ddod.

Yn ogystal â bod yn gasgliad “ychydig bach yn fwy acwstig” nag arfer, mae Archie yn dweud fod y caneuon hefyd wedi’u sgrifennu “o ongl wahanol”, gan sbïo ar y byd trwy lygad dynes, yn hytrach na dyn.

“Dros y blynyddoedd, dw i wedi bod yn sgrifennu caneuon sydd, i ryw raddau, yn hunangofiannol,” meddai Barry Jones wrth golwg360.

“Nid bo fi’n deud mai fi yw’r person ym mhob un gân dw i wedi’i sgrifennu, ond mae yna elfen o ddeud rhywbeth sydd wedi digwydd i fi neu mae gen i ryw fath o gysylltiad efo fo…

“Dw i wedi dweud cymaint yn y modd yna, o’n i jyst isio arbrofi i weld sut beth fyddai sgrifennu o safbwynt merch. Dw i wedi sgrifennu digon am ddyn canol oed, blin, ac o’n i isio gweld sut beth fyddai sgrifennu o safbwynt merch ganol oed, flin.”

Ymateb ar-lein yn gyntaf

Er bod Barry Jones yn cydnabod bod ganddo ddigon o gasgliad i greu albwm llawn, mae’n ychwanegu bod hynny’n “fenter mor gostus” fel ei fod wedi penderfynu rhyddhau’r cyfan ar-lein yn gyntaf er mwyn cael mesur yr ymateb.

“Mae modd y dyddia’ yma i wneud hyn, sef eu rhoi nhw allan a gweld sut ymateb maen nhw’n eu cael,” meddai.

“Y dyddiau o’r blaen, doeddan ni ddim yn gallu gwneud hyn. Roeddach chi’n gorfod cymryd y risg o wasgu cwpwl o filoedd o CDs a gweld os oeddan nhw’n mynd off y silff.

“Ond y dyddiau yma gan fod y dechnoleg yna i ni allu wneud hyn, dw i’n meddwl mai’r peth callaf ydy rhoi’r caneuon allan.”

Mae modd gwrando ar dair o ganeuon Band of Hope yn fan hyn.