Mae’r ferch 13 oed sydd wedi’i dewis i gynrychioli Cymru yn ffeinal cystadleuaeth Junior Eurovision am y tro cynta’ erioed, yn gorfod “pinsio” ei hun i gredu be’ sy’n digwydd iddi.

Dim ond tair wythnos sydd ers i Manw Lili drechu pump o ferched eraill yn rownd derfynol Cymru yn Venue Cymru, Llandudno.

Ers hynny, mae hi wedi denu sylw lleol a rhyngwladol, cyn iddi gynrychioli ei gwlad yn Belarws ar Dachwedd 25

Fe fydd hi’n canu cân newydd sbon gan Yws Gwynedd, ‘Berta’

Negeseuon o bob cwr o’r byd

“Yn dilyn y ffeinal yng Nghymru, mi ges i negeseuon cefnogol gan bobol ledled Cymru – ac yn fyd eang,” meddai Manw Lili wrth golwg360.

“Pan ryddhawyd y fideo pop ar Hydref 16, o’n i wedi fy syfrdanu gan y llif o ymateb.

“Mae pobol o ynysoedd y Ffilipinas, Patagonia, yr Almaen a Seland Newydd wedi cysylltu efo fi.”

Ffrindiau yn cadw ei thraed ar y ddaear

“Mae fy ffrindiau yn ddi lol ac yn cadw fy nhraed ar y ddaear ac yn help mawr i mi ddal i fyny hefo gwaith ysgol!” meddai Manw Lili wedyn.

“Dw i’n meddwl bod hi’n bwysig ymlacio pan ga i ambell gyfle, a chwerthin digon.

“Dw i eisio cynrychioli Cymru orau medra i, rhannu’r balchder sy’ gen i o fod yn Gymraes a mwynhau gwneud ffrindiau newydd a chael profiadau anhygoel.”

Fe fydd ffeinal Junior Eurovision 2018 yn cael ei gynnal yn ninas Minsk, Belarws, ar nos Sul, Tachwedd 25.

Dyma fydd y 16eg flwyddyn i’r gystadleuaeth gael ei chynnal, a’r tro cyntaf i Gymru gymryd rhan ynddi.