Bydd Menter Iaith Môn yn cyhoeddi fideos yr wythnos nesaf i helpu pobol ddysgu’r ukelele trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r fideos yn rhan o brosiect hanner tymor Bocsŵn, a fydd yn cynnig y cyfle i ddysgu’r ukelele gartref gan ddefnyddio’r fideos ar-lein.

Bydd y fideo gyntaf ar gael am 5 o’r gloch ddydd Mawrth (Hydref 30), a’r ail ddydd Iau (Tachwedd 1), a bydd gwersi wythnosol i ddilyn hyd at y Nadolig. Byddan nhw ar gael ar dudalen Facebook ‘Bocsŵn’ ac ar YouTube.

Fel rhan o’r prosiect, mae gwersi ukelele wedi’u rhoi gan Richard Owen ers mis Medi yn ysgolion Y Fali, Y Tywyn, Moelfre, Benllech, Rhosneigr, Biwmares, Llanfawr ac Ysgol Uwchradd Bodedern.

‘Cymaint o fwynhad’

“Dw i wedi cael cymaint o fwynhad yn chwarae cerddoriaeth yn y Gymraeg, a gweld brwdfrydedd heintus y disgyblion yn yr ysgolion wrth feithrin sgiliau newydd,” meddai Richard Owen, sy’n cynnal Bocsŵn.

“Peth hollol naturiol oedd ymestyn y ddarpariaeth i’r cartref er mwyn i deuluoedd a grwpiau fwynhau’r profiad o ddysgu cerdd yn haws.”