Mae rhestr fer Gwobr Cerddoriaeth Cymru 2018 wedi ei chyhoeddi, ac mae hi’n argoeli i fod yn gystadleuaeth agos iawn y flwyddyn hon.

Mae Gruff Rhys, a enillodd y wobr yn 2011, yn dychwelyd gyda’i albwm newydd Bablesberg, a Gwenno, a ddaeth i’r brig yn 2015, yn dychwelyd gyda’i halbwm yn yr iaith Gernyweg, Le Kov.

Mi fydd y triawd pync-pop Mellt, o Aberystwyth, hefyd yn cael eu cynnwys ar ôl ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, yn yr Eisteddfod eleni.

Ymysg yr enwebiadau eraill mae Manic Sathret Preachers, Boy Azooga, Bryde, Eugene Capper a Rhodri Brooks, Alex Dingley, Catrin Finch a Seckou Keita, Toby Hay a Seazoo am albymau sydd wedi derbyn clod yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd wythfed seremoni Gwobr Cerddoriaeth Cymru, a gafodd ei sefydlu gan y DJ, Huw Stephens a John Roston, yn cael ei chynnal nos Fercher, Tachwedd 7, yn y Gyfnewidfa Lo, Bae Caerdydd.