Manw Lili o Fangor fydd yn cynrychioli Cymru yn ffeinal Eurovision Ifanc 2018 ym mhrifddinas Belarws fis nesaf.

Mewn noson yn Venue Cymru, Llandudno heno (nos Fawrth, Hydref 9) fe gafodd ei dewis trwy bleidlais y gwylwyr allan o chwe chantores a oedd wedi cyrraedd rownd derfynol Cymru.

Pan fydd hi’n cystadlu yn Belarws, fe fydd cynrychiolwyr o 19 o wledydd eraill Ewrop yn mynd benben â hi am deitl Junor Eurovision 2018.

Mae Manw Lili yn 13 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn.

Dyma luniau’r pum perfformwraig ifanc arall a fu’n cystadlu am y fraint o gynrychioli Cymru heno…

Ffeinal Junior Eurovision 2018
Lily
Ffeinal Junior Eurovision 2018
Lauren
Ffeinal Junior Eurovision 2018
Ella
Ffeinal Junior Eurovision 2018
Misha
Ffeinal Junior Eurovision 2018
Gracie-Jayne