Mae mentor Gracie-Jayne, Stifyn Parri, yn cymharu’r ferch 12 oed ag un o gantoresau enwocaf Cymru – Shirley Bassey.

Mae’r ferch o’r de yn meddu ar lais arbennig o aeddfed ac yn gallu beltio fel y Gymraeg o Tiger Bay.

Ar ôl codi’r to yn ei pherfformiad cyntaf yn y gwrandawiadau, roedd y mentoriaid wedi gosod safon uchel iddi… safon y llwyddodd i’w gyrraedd yn yr ail rownd yn Abertawe.

A dim ond blwyddyn sydd ers iddi ddechrau perfformio – a hynny gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru.

“Dw i’n caru dawnsio, gymnasteg, ac actio yn amlwg ond un o fy hoff bethau yn y byd yw arlunio,” meddai Gracie-Jayne.

“Fe fydden i’n hoffi canu deuawd gyda fy athrawes canu, Katie Treharne, achos mae wedi bod yn y West End ac mae hi’n wych!”