Bu farw un o gantorion poblogaidd yr 1980au, ac un hanner o’r ddeuawd honci tonc, Chas and Dave.

Chas Hodges oedd pianydd a chanwr y ddeuawd a ddaeth i’r amlwg am ganu yn arddull ac yn defnyddio iaith y Cocni. Fe gyrhaeddon nhw frig y siartiau gyda chaneuon fel ‘Rabbit’ ac ‘Ain’t no pleasing you’ lle’r oedden nhw’n defnyddio iaith Llundain i ddweud eu stori.

Roedd Chas Hodges wedi encilio eleni, er mwyn cael triniaeth at ganser yn ei oesoffagws. Roedd hynny wedi golygu bod y ddeuawd hefyd wedi canslo taith o gwmpas gwledydd Prydain, ond yn y gobaith y bydden nhw’n ei holau y flwyddyn nesaf.

Heddiw, fe ddaeth y cyhoeddiad gan gynrychiolwyr y cerddorion fod Chas Hodges wedi marw’n dawel yn ei gwsg yn ystod oriau mân dydd Sadwrn, Medi 22.