Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn galw ar Aelodau Seneddol Ewropeaidd i gefnogi newid yn y gyfraith ar hawlfraint er mwyn sicrhau tegwch ariannol wrth lwytho eu caneuon i’r we.

Ar hyn o bryd, byddai angen i fideo YouTube o gân gael ei gwylio 51.1 miliwn o weithiau er mwyn i ganwr ennill cyflog cyfartalog gwledydd Prydain – £27,600.

Ond mae mudiadau sy’n cynrychioli cantorion, cynhyrchwyr, labeli annibynnol a rheolwyr cerddorion yn galw am newid y gyfraith.

Bydd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn trafod y mater heddiw (dydd Mercher, Medi 12) cyn pleidleisio.

Yr hyn sy’n cael ei gynnig

Ymhlith y mesurau sy’n cael eu cynnig mae cyflwyno ffilter ar y we a fyddai’n sicrhau nad yw unrhyw ddeunydd sy’n cael ei lwytho i’r we yn mynd yn groes i ddeddfau hawlfraint.

Byddai hyn, meddai’r diwydiant, yn arwain at dâl teg i gerddorion am eu gwaith.

Ond mae gwrthwynebwyr yn dadlau y byddai hyn yn ei gwneud yn fwy anodd cael mynediad i wybodaeth ar y we yn gyffredinol.

‘Mynediad wrth galon YouTube’

Yn ôl llefarydd ar ran YouTube, mae llwyddiant y rhai sy’n llwytho’u gwaith i’r wefan “wrth galon” y wefan.

“Dyna pam fod gennym gytundebau trwyddedu cerddoriaeth ar draws y byd, gan gynnwys y DU ac Ewrop.

“Trwy’r cytundebau hyn, rydym yn talu rhan fwyaf ein refeniw i bartneriaid, sy’n cyfateb i fwy na biliwn o ddoleri i’r diwydiant cerddoriaeth dros y 12 mis diwethaf.”