Bu farw’r gantores soul, Aretha Franklin yn ei chartref yn Detroit yn 76 oed.

Roedd hi’n cael ei hystyried yn ‘frenhines’ y sîn, gyda’i  chaneuon, ‘Think’ a ‘Respect’ yn cael eu disgrifio’n glasuron.

Roedd hi wedi bod yn brwydro canser y pancreas dros y misoedd diwethaf.

Mewn datganiad, mae’r teulu wedi disgrifio ei marwolaeth fel “moment tywyllaf ein bywydau”, gan ddweud ei bod hi’n anodd rhoi mewn geiriau y boen sydd yn eu calonnau.

“Rydyn ni wedi colli mam a chraig ein teulu,” medden nhw.