Bydd apêl newydd am arian er cof am Meredydd Evans yn cael ei lansio ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Awst 8).

Ymddiriedolaeth William Salesbury fydd yn lansio’r apêl, a hynny er mwyn dynodi canmlwyddiant geni Dr Meredydd Evans, un o sylfaenwyr yr ymddiriedolaeth, yn 2019.

Y nod yw casglu o leia’ £10,000 y flwyddyn am y pum mlynedd nesaf, a hynny er mwyn galluogi pobol Cymru i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd am ddilyn eu cwrs yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda’r nod hefyd o ehangu nifer y cyrsiau sydd ar gael yn Gymraeg.

Ers sefydlu’r ymddiriedolaeth yn 2012, mae chwech myfyriwr wedi derbyn cymorth gan y Gronfa ar ffurf ysgoloriaethau gwerth £5,000 dros gyfnod o dair blynedd.

“Dyn unigryw”

“Roedd Mered, i ni ei gyd-Gymry, yn ddyn unigryw,” meddai Ann Beynon, ar ran ei chyd-ymddiriedolwyr.

“Parhad a ffyniant iaith a diwylliant Cymru oedd ei brif genhadaeth, gan sefydlu Ymddiriedolaeth Wiliam Salesbury yn 2012.

“Nid oedd llaesu dwylo yn perthyn i Merêd a dyma ein cyfle ni nawr i gerdded yn ôl ei droed, dathlu ei rodd a pharhau â’i waith.

“Ond er mwyn gwneud hynny, rhaid chwyddo’r coffrau.”