Fe fydd Tom Jones yn dychwelyd i’r llwyfan nos fory (Gwener, Gorffennaf 27) ar ôl gorfod canslo pum perfformiad oherwydd salwch.

Mae’r canwr o Bontypridd wedi bod yn diodde’ o haint bacteriol, ond mae’n “teimlo’n well” ac yn barod i ail-afael yn ei daith, meddai ar ei gyfrif Twitter.

“Rydym yn falch o ddweud y bydd taith Tom Jones yn ail-ddechrau yng Nghae Ras Efrog ddydd Gwener, Gorffennaf 27,” meddai’r datganiad.

“Mae Syr Tom yn teimlo’n llawer gwell ac mae meddygon yn dweud ei fod yn barod i ail-ddechrau perfformio.

“Hoffai ddiolch o galon i bawb am ddeall pam yr oedd yn rhaid iddo ganslo rhai perfformiadau, a diolch hefyd i’r rheiny sydd wedi anfon negeseuon cefnogol ac ysgogol dros yr wythnos ddiwethaf.”