Mae tocynnau ar gyfer cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni, wedi gwerthu’n llwyr

Hwn yw fy Mrawd yw enw’r cynhyrchiad ac mae’r perfformiad yn edrych ar berthynas Paul Robeson – yr actor-ganwr ac ymgyrchydd gwleidyddol o’r Unol Daleithiau – gyda Chymru.

Mae’r noson agoriadol yn cyd-daro â nodi 60 mlynedd ers i Paul Robeson ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy yn 1958.

Mi fydd yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, gyda Bryn Terfel yn y brif ran.

Mererid Hopwood sy’n gyfrifol am y libreto, a Robat Arwyn am gyfansoddi’r gerddoriaeth.