Fe fydd sesiwn stiwdio newydd a ddarganfuwyd yn cynnwys cyfansoddiadau anhysbys o’r gorffennol gan y sacsoffonydd jazz o’r Unol Daleithiau, John Coltrane a’i bedwarawd, yn cael ei ryddhau ddiwedd y mis yma – 55 mlynedd ar ôl ei dapio yn wreiddiol.

Recordiwyd yr albwm, o’r enw Both Directions At Once: The Lost Album, gan y cerddorion ar Fawrth 6, 1963 yn Stiwdios Van Gelder yn New Jersey.

Mae’n cynnwys y pianydd McCoy Tyner, y baswr Jimmy Garrison a’r drymiwr, Elvin Jones.

Mae Sonny Rollins, sacsoffonydd Americanaidd, wedi disgrifio darganfyddiad yr albwm fel “fel dod o hyd i ystafell newydd yn y Great Pyramid”.

Arweiniodd y sesiwn hanesyddol hon at 14 o draciau i gyd. Bydd Both Directions At Once: The Lost Album yn cael ei ryddhau ar Fehefin 29.