Mae ieuenctid Cymru yn cael eu hannog i gyfrannu at brosiect cerddorol ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni.

Yn y babell Tipi Syr IfanC ar faes y brifwyl yn Llanelwedd, mae blwch pren â phelen ddisgo uwch ei ben, a’r enw arno ydi ‘Blwch Sŵn Steddfod’, gyda’r nod o gasglu clipiau a synau plant Cymru.

Cwmni theatr Fran Wên sydd y tu ôl i’r fenter. Y cerddorion Gruff ab Arwel – aelod o fandiau Bitw ac Y Niwl – a Mari Morgan, aelod o Rogue Jones a Saron, sy’n gyfrifol am y prosiect.

Nod y pâr yw cyfuno’r clipiau yma a chreu cân derfynol, fydd yn cael ei rhyddhau ddydd Sadwrn (Mai 29). Gruff ab Arwel fydd yn cynhyrchu’r holl beth, gyda Mari Morgan yn recordio.

Lle i fynegi

“Mewn lle fel hyn – lle mae digon o gystadlu yn digwydd – mae’n neis cael lle, lle mae pobol yn medru mynegi eu hunain yn greadigol heb fod mewn cystadleuaeth,” meddai Gruff ab Arwel wrth golwg360.

“Rydan ni wedi trio dod i mewn iddo fo heb unrhyw fath o ragdybiaeth o sut mae’n mynd i swnio. Rydan ni’n trio cael o swnio cyn lleied fel fi ag sy’n bosib,  a’n fwy fel y plant sydd wedi dod yma i gymryd rhan.

“Rydan ni’n anelu am gân bop, ond mae’n bosib eith o’n fwy avant garde! Ar hyn o bryd, mae o’n hollol benagored. Ond, efallai bydd yn rhaid whittle-io fo lawr tamad bach!”