Ar y diwrnod yr agorodd e ddigwyddiad Biggest Weekend Radio 1 yn Abertawe, mae Ed Sheeran wedi amddiffyn ei safiad yn erbyn towtiaid tocynnau.

Mae’r canwr, oedd wedi cydweithio ar y gân Thinking Out Loud gydag Amy Wadge o Bontypridd, yn mynnu mai towtiaid yn unig, ac nid ei gefnogwyr, fydd ar eu colled yn sgil camau diogelwch mae e wedi eu cyflwyno.

Fe fydd e’n perfformio ym Manceinion heno, ac mae gofyn i bobol oedd wedi prynu tocynnau drwy wefan Viagogo brynu tocynnau newydd wrth gyrraedd y gig.

Mae’r wefan yn cynnig y cyfle i bobol werthu tocynnau am fwy o arian na’r pris gwreiddiol, gan alluogi towtiaid i wneud elw sylweddol.

Rhybudd

Roedd hyrwyddwyr ei daith wedi rhybuddio fis Gorffennaf y llynedd na fyddai pobol sy’n prynu tocynnau drwy wefan Viagogo yn cael mynediad i’w gigs yn y dyfodol.

Wrth i bobol gyrraedd Stadiwm Etihad ym Manceinion ddydd Iau a dydd Gwener, cawson nhw wybod y byddai’n rhaid iddyn nhw brynu tocynnau newydd am £80 gan nad oedd eu tocynnau gwreiddiol yn ddilys bellach. Byddai’n rhaid iddyn nhw hawlio’r arian yn ôl gan y wefan yn ddiweddarach, meddai’r canwr.

Dywedodd nifer o bobol nad oedden nhw’n gallu fforddio prynu tocynnau newydd wrth aros am ad-daliad.

Ond mae Ed Sheeran yn mynnu na fyddai ei gefnogwyr ar eu colled “yn y tymor hir”.

“Yr unig bobol fydd yn cael eu niweidio yn y pen draw yw’r towtiaid,” meddai. “Mae’n gas gyda fi’r syniad fod pobol yn talu mwy na’r pris gwreiddiol am docynnau pan allwch chi eu cael nhw am y pris gwreiddiol hwnnw.”

Mynnodd nad oedd ei safiad yn “twyllo” pobol, ac nad ef yw’r unig un sy’n cyflwyno camau o’r fath bellach.