Mae dwy ysgol Gymraeg yn y ras i gael eu henwi’n Gôr y Flwyddyn Songs of Praise heddiw.

Bydd Ysgol Y Strade yn Llanelli yn cystadlu yn y categori hŷn, tra bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn Y Porth yn cystadlu yn y categori iau.

Cyrhaeddodd y ddwy ysgol y rownd derfynol ar ôl ennill y rownd gyn-derfynol yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.

Aled Jones a Josie d’Arby fydd yn cyflwyno’r rhaglen arbennig ar BBC1 heddiw am 2.40pm, a’r beirniaid fydd Carrie Grant, JB Gill a Ken Burton.