Mae Prif Gwnstabl o Loegr sydd wedi galw ar gôr meibion ei lu i dderbyn menywod i ganu, wedi ymateb i feirniadaeth trwy fynnu mai “storm mewn cwpan de” ydi’r mater.

Ar ôl dod i’w swydd y llynedd, fe alwodd Peter Goodman ar Gôr Meibion Heddlu Swydd Derby i droi’n gôr cymysg, gan fygwth diddymu eu cysylltiad â’r llu pe na baen nhw’n croesawu merched atyn nhw i ganu.

Ond yn hytrach na newid, mae’r côr wedi newid ei enw i ‘Gôr Meibion Cymuned Derbyshire’ yn hytrach na derbyn merched, gan ddadlau y byddai newid y côr wedi cymryd blynyddoedd.

Ond mae’r mater yn bwnc llosg o hyd yn Swydd Derby, a dyna pam y mae’r Prif Gwnstabl Peter Goodman wedi troi at Facebook Live i ateb cwestiynau gan y cyhoedd, ac i leisio ei farn ef ar y mater.

“Hen ddynion gwyn”

“Does gen i ddim problem â chorau meibion,” meddai. “Dw i’n deall yn iawn eu bod yn wahanol i gorau cymysg.

“Ond dw i eisiau iddyn nhw edrych a theimlo fel y llu yr ydan ni’n anelu i fod. Ac i fod yn gwbwl onest, dydi grŵp o hen ddynion gwyn yn canu… ddim yn adlewyrchu’r ddelwedd dw i am ei chyflwyno i’r byd.”

Does dim un swyddog na chyn-swyddog o’r llu yn aelod o’r côr, yn ôl y Prif Gwnstabl, a’i ddadl ef yw bod y cysylltiad rhwng y llu a’r côr yn “denau iawn” bellach.

Y “cysylltiad go iawn” rhwng y ddau, meddai, yw bod y côr yn ymarfer yn un o orsafoedd yr heddlu, a bod ei aelodau yn gwisgo gwisg yr heddlu.